Home
About usWhat we doCase studiesNewsFAQsCareers
Home >> Pam hyfforddi?
20-Nov-2008


Why train?

Employers

Learners

Qualifications

Genesis

Placed Apprentices

CIPD

Eligibility & Funding

Nationwide cover

Local Support

Useful links

Connexions

Contact us

Log in

Ask Elle

Darpariaeth yng Nghymru



Welsh Assembly Logo

Pam hyfforddi?


Oherwydd y gall dysgwyr unigol a chyflogwyr fel ei gilydd fod ar eu hennill o'r profiad.

Dyma i chi rai yn unig o'r rhesymau pam y gall ein tîm profiadol ni yn Protocol Skills eich helpu chi ...

Os ydych yn ddysgwr:

  • Cewch gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol
  • Gallwch roi'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar waith yn syth
  • Gallwch fynd â'ch cymhwyster gyda chi - lle bynnag y byddwch yn gweithio
  • Gallwch ddysgu mewn ffordd sy'n gweddu i'ch dull o fyw
  • Mae'n costio dim a chewch eich talu wrth ichi ddysgu
  • Mae'n eich helpu chi i wneud eich gwaith yn well a gall eich helpu chi i gael dyrchafiad
  • Gallai eich helpu chi i ennill rhagor, hyd yn oed!

Os ydych yn gyflogwr:

  • Gallwch gynyddu eich proffidioldeb wrth i'ch gweithwyr ddysgu sgiliau busnes hanfodol
  • Gallwch gefnogi unigolion sydd â gwir ddiddordeb mewn datblygu eu sgiliau
  • Y cynnydd yng ngwybodaeth a sgiliau eich gweithwyr, a fydd o fantais i'r busnes yn syth
  • Gall cymwysterau helpu eich gweithwyr i gyflawni eu dyletswyddau'n fwy effeithiol o ddydd i ddydd
  • Gall gweithwyr sydd â gwell sgiliau gofal cwsmer gynyddu teyrngarwch cwsmeriaid
  • Gallwch wobrwyo pobl frwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu ac i ddod ymlaen
"Yn yr 21ain ganrif, ein pobl yw'n hadnodd naturiol - ac mae eu potensial yn enfawr ac yn ddigyffwrdd. Sgiliau yw'r allwedd i ddatgloi'r potensial hwnnw. Bydd y wobr i'n gwlad yn un enfawr - cynhyrchu mwy,  creu cyfoeth a chyfiawnder cymdeithasol."

Arglwydd Leitch, 2006